Loading Events

« All Events

  • This event has passed.

Dwylo Bach – Ti a Fi Corwen

September 18, 2024 @ 9:30 am - 11:00 am

Mae gweithdai Dwylo Bach yn sesiynau a arweinir gan artist sy’n cynnig ‘Gwahoddiad i Chwarae’ i fabis a phlant ifanc. Yn hytrach na theganau traddodiadol mae gennym ni ‘ddarnau rhydd pen-agored’. Rydym ni’n dod ag eitemau fel tiwbiau cardfwrdd, basgedi, blychau pren, llinyn, bobinau, plu a chylchoedd hwla, yn ogystal â phaent a thoes. Nid oes unrhyw ffordd gywir o chwarae ac rydym yn annog babanod a’u gofalwyr i archwilio’r deunyddiau synhwyraidd a’r gofodau rydym yn eu creu – gyda’n gilydd. Mae’r sesiynau’n cael eu harwain gan y babi, heb unrhyw weithgareddau grŵp. Rydym ni’n defnyddio paent sy’n addas ar gyfer babis ac yn eich hannog chi a’ch babis i wisgo hen ddillad a dod â dillad sbâr rhag ofn!  

Details

Venue