Skip to main content
 

Care Creatively

Cymuned ar gyfer Cydlynwyr Gweithgareddau a Staff Cartrefi Gofal ledled Gogledd Cymru

Gofod sy’n Deall

Mae gweithio mewn cartref gofal yn rhoi boddhad – ond rhaid cyfaddef ei fod yn anodd. Mae’r dyddiau’n hir, yr egni’n brin, ac weithiau mae’n teimlo fel eich bod chi’n jyglo cant o bethau ar unwaith… a hynny i gyd wrth geisio gwneud pob diwrnod yn ystyrlon i’r bobl rydych chi’n gofalu amdanyn nhw.

Rydyn ni’n deall hynny. Dyna pam rydyn ni wedi creu cymuned yn arbennig ar eich cyfer chi – gofod lle gall Cydlynwyr Gweithgareddau a staff gofal rannu syniadau, cyfnewid awgrymiadau, a chefnogi ei gilydd. Ac oherwydd ein bod ni’n cael ein harwain gan artistiaid, mae yna’n wastad wreichionyn o greadigrwydd i gadw pethau ynghynn.

Y Brwydrau Rydyn Ni’n Clywed Amdanyn Nhw

  • Teimlo fel petaech chi’n rhedeg ar danc gwag ond bod disgwyl i chi gynllunio gweithgareddau hwyliog a difyr yr un fath.
  • Chwilio drwy’r amser am ysbrydoliaeth neu adnoddau sydd wir yn gweithio yn eich lleoliad gofal.
  • Meddwl tybed a oes unrhyw un arall yn deall uchafbwyntiau ac iselbwyntiau eich rôl o ddifrif.
  • Rydych chi’n dechrau chwythu’ch plwc, sy’n gwneud i dasgau syml hyd yn oed deimlo’n flinedig.

Dydych chi ddim ar eich pen eich hun – a does dim rhaid i chi wneud hyn ar eich pen eich hun.

Care Creatively
Care Creatively group

Sut Rydyn Ni’n Helpu gyda Gofalu’n Greadigol

Dyma sut mae ymuno â’n cymuned ni yn edrych mewn bywyd go iawn:

  • Gweithdai creadigol, ymarferol dan arweiniad artistiaid proffesiynol – gweithgareddau y gallwch chi eu gwneud yn eich cartref gofal.
  • Rhwydwaith o gydweithwyr cyfeillgar – cyfnewid syniadau, gwyntyllu pan fo angen, dathlu buddugoliaethau bach gyda’ch gilydd.
  • Adnoddau ac ysbrydoliaeth – cynllunio gweithgareddau, promptiau ac argymhellion sy’n arbed amser ac yn dod â llygedyn o lawenydd.
  • Ar gyfer Pwy Mae Hyn?
  • Cydlynwyr Gweithgareddau sy’n chwilio am gefnogaeth a syniadau newydd
  • Staff gofal sydd eisiau dod â mwy o greadigrwydd i fywyd bob dydd
  • Gwirfoddolwyr yn helpu gyda gweithgareddau
  • Unrhyw un mewn lleoliad gofal sydd eisiau gwneud dyddiau’r preswylwyr yn fwy disglair

Y Manteision i Chi

  • Cael syniadau ymarferol sydd ddim yn cymryd drwy’r dydd.
  • Cysylltu â phobl sydd wir yn deall eich sefyllfa.
  • Dod â mwy o lawenydd, chwerthin, a chreadigrwydd i’ch cartref gofal.

Ymunwch â Ni

Os ydych chi’n barod i gael eich ysbrydoli, eich cefnogi, a bod mewn cysylltiad, edrychwn ymlaen at eich croesawu chi.

Ymunwch â'r Gymuned