Skip to main content
Loading Digwyddiadau

« Pob Digwyddiadau

  • This event has passed.

Parc Gwydir, Betws y Coed

Awst 30 @ 10:00 yb - 11:30 yb
Dwylo Bach
Dyddiad ac Amser: Sad 30 Awst, 10:00 AM – 11:30 AM
Lleoliad: Parc Gwydir, Llanrwst
Sesiwn galw heibio, dim angen archebu
Croeso i fabanod a phlant 0-5 oed, yng nghwmni oedolyn.
Ymunwch â ni ym Mharc Gwydir yn Llanrwst am fore llawn chwarae creadigol yn yr awyr agored. Mae’r sesiwn ddiddorol hon yn cynnig cyfle gwych i’ch rhai bach archwilio natur, cymryd rhan mewn gweithgareddau dychmygus, a dysgu am y Dafydd ap Siencyn chwedlonol trwy chwarae.
Gwisgwch yn addas ar gyfer y tywydd, gan y byddwn ni y tu allan boed law neu hindda.

Mae gweithdai Dwylo Bach yn sesiynau a arweinir gan artist sy’n cynnig ‘Gwahoddiad i Chwarae’ i fabis a phlant ifanc. Yn hytrach na theganau traddodiadol mae gennym ni ‘ddarnau rhydd pen-agored’. Rydym ni’n dod ag eitemau fel tiwbiau cardfwrdd, basgedi, blychau pren, llinyn, bobinau, plu a chylchoedd hwla, yn ogystal â phaent a thoes. Nid oes unrhyw ffordd gywir o chwarae ac rydym yn annog babanod a’u gofalwyr i archwilio’r deunyddiau synhwyraidd a’r gofodau rydym yn eu creu – gyda’n gilydd.

Mae’r sesiynau’n cael eu harwain gan y babi, heb unrhyw weithgareddau grŵp.

Rydym yn defnyddio paent sy’n addas i blant ac yn eich annog chi a’ch babanod i wisgo hen ddillad a dod â darnau sbâr oherwydd gall pethau fynd yn flêr!

Fel elusen rydym yn cynnig mynediad cyfartal i bawb i’n gweithdai a’n digwyddiadau felly mae ein sesiynau yn rhad ac am ddim.

Fodd bynnag, gallwch chi ein cefnogi o hyd trwy wneud rhodd yma

Mae pob rhodd, boed yn fawr neu’n fach, yn ein cefnogi i barhau â’n gwaith elusennol

Diolch yn fawr!!Clocaenog

Wedi’i wneud yn bosibl diolch i gyllid gan Gronfa Fferm Wynt Coedwig Clocaenog

Manylion

Organizer

  • Making Sense CIO

Lleoliad