Skip to main content
Loading Digwyddiadau

« Pob Digwyddiadau

  • This event has passed.

Hwb Pentredŵr ger Llangollen

Gorffennaf 24 @ 9:15 yb - 11:15 yb

Wedi’i gynnal gan Hwb Pentredwr

Mae gweithdai Dwylo Bach yn sesiynau dan arweiniad artistiaid sy’n cynnig “Gwahoddiadau i Chwarae” i fabanod. Yn hytrach na theganau traddodiadol mae gennym “rannau rhydd penagored”. Rydym ni’n dod ag eitemau fel tiwbiau cardfwrdd, basgedi, blychau pren, llinyn, bobinau, plu a chylchoedd hwla, yn ogystal â phaent a thoes. Nid oes unrhyw ffordd gywir o chwarae ac rydym yn annog babanod a’u gofalwyr i archwilio’r deunyddiau synhwyraidd a’r gofodau rydym yn eu creu – gyda’n gilydd.

Mae’r sesiynau’n cael eu harwain gan y babi, heb unrhyw weithgareddau grŵp.

Rydym yn defnyddio paent sy’n addas i blant ac yn eich annog chi a’ch babanod i wisgo hen ddillad a dod â darnau sbâr oherwydd gall pethau fynd yn flêr!

Fel elusen rydym yn cynnig mynediad cyfartal i bawb i’n gweithdai a’n digwyddiadau felly mae ein sesiynau yn rhad ac am ddim.

Fodd bynnag, gallwch chi ein cefnogi o hyd trwy wneud rhodd yma

Mae pob rhodd, boed yn fawr neu’n fach, yn ein cefnogi i barhau â’n gwaith elusennol

Diolch yn fawr!!

Manylion

Organizer

  • Making Sense CIO

Lleoliad