Skip to main content
newyddion

Diweddariad Making Sense CIO

By Tachwedd 21, 2024Hydref 17th, 2025No Comments

Rydym ni’n arbennig o falch o’n llwyddiants gyda’r prosiect Dwylo Bach yn yr ardaloedd gwledig ac ar daith, a’n gwaith gyda Mudiad Meithrin. Cynhelir sesiynau yng Nghonwy, Canolfan Grefft Rhuthun, stiwdio MADE a lleoliadau eraill ledled Gogledd Cymru, a byddant yn parhau diolch i gyllid gan Gronfa Cymuned Fferm Wynt Clocaenog.

Llwyddiant Gofalu’n Greadigol, sy’n gweithio gydag ymarferwyr creadigol mewn cartrefi gofal preswyl a grwpiau cymunedol yn Sir Ddinbych a Chonwy a’n partneriaeth â Llyfrgelloedd Sir Ddinbych a’n hadnoddau newydd i ysgogi hel atgofion.

Mae’r Gwasanaeth Parsel Synhwyraidd bellach yn gweithredu mewn canolfannau adnoddau i oedolion ag anableddau dysgu ledled Gogledd Cymru gyda chyllid gan ein partneriaid a’r Gronfa Trawsnewid Anableddau Dysgu.

Rhoddwyd statws elusennol i ni ym mis Awst 2023 a bellach rydym yn cael ein hadnabod fel Making Sense – Sefydliad Corfforedig Elusennol (Charitable Incorporated Organisation (CIO)). Nawr rydym yn cael ein harwain gan fwrdd o Ymddiriedolwyr gydag Anthony Farnsworth yn Gadeirydd ac Alan Griffiths, John Rostron a Maggie Sheppard yn aelodau’r bwrdd. Fe’n cyllidwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Mae’r cyllid hwn i ddatblygu Making Sense CIO fel elusen gynaliadwy, gan gynyddu ein capasiti a chryfhau ein bwrdd. The funding includes the creation of 2 new roles focusing on creating and delivering a strategy for our future Ticky Lowe and Eleri Hayhurst have been busy shaping the future of the charity and a big part of that has been creating a new website!

Newyddion cyllido arall

Mae’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yng Nghonwy wedi ariannu parhau’r prosiect i weithio gyda chartrefi gofal yng Nghonwy, lle rydym ni wedi llunio partneriaeth rhwng artistiaid a chydlynwyr gweithgareddau mewn 10 cartref gofal.

Mae Celfyddydau Cymru wedi darparu cyllid ar gyfer prosiect y Celfyddydau ym maes Iechyd a Llesiant gan weithio gyda hyrwyddwr Deall Dementia Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a chydlynwyr gweithgareddau’n cynrychioli 25 cartref gofal yn Wrecsam. Bydd hyn yn cynnwys tri artist preswyl a chymorth a chyfleoedd ymgynghori i staff gofal.

Diolch enfawr i Craig Yamey am ddylunio’r logo a brand Making Sense CIO.
Diolch i Mark Anderson am ei amynedd yn rhoi ein gwefan newydd odidog at ei gilydd!
Diolch i Anthony, Maggie a’n holl ymddiriedolwyr am weithio i sicrhau statws elusennol i Making Sense a’n llywio ni drwy ein blwyddyn gyntaf!

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig yn rhan ganolog o agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac mae’n darparu £2.6 biliwn o gyllid i’w fuddsoddi’n lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder unigolion yn eu hardal leol, cynyddu cyfleoedd bywyd ar draws y Deyrnas Unedig, buddsoddi mewn cymunedau, cefnogi busnesau lleol a phobl a sgiliau. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus